Robert BrianHUMPHREYS6 Hydref, 2025. Yn sydyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Bodfan, Rhosgadfan, yn 80 mlwydd oed.
Priod cariadus y diweddar Iola (Nyrs Iola), a thad gofalus Alwena a Dylan; tad-yng-nghyfraith caredig Gareth a Nia, taid balch ac arbennig Aron, Sioned, Ioan ac Ifan, brawd annwyl Wenda, brawd-yng-nghyfraith hoff Eurwen a Wil ac ewythr Geraint, Mark, Gethin a Ffion a'u teuluoedd. Hefyd ffrind triw i lawer a bydd yn golled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd fore Llun, 20 Hydref, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Brian tuag at elusennau lleol.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates